Sgwrsio a negeseua sydyn—Beth sy’n ddrwg?
Beth yw’r peryglon?
Er bod sgwrsio ar-lein medru bod yn llawer o hwyl, gall pobl ifanc ambell waith ddarganfod eu hun mewn sefyllfaoedd lle maent yn gallu teimlo allan o’i dyfnder. Mae risgiau yn gallu codi pan fod pobl ifanc yn rhoi manylion personol allan i bobl ddieithr. Mae’r byd ar-lein yn aml yn medru bod yn wahanol iawn i’r byd iawn i bobl ifanc, ac maent yn gallu cael eu denu i ddweud a gwneud pethau na fyddent byth yn breuddwydio gwneud pe baent yn cwrdd â rhywun wyneb yn wyneb. Mae hyn yn cynnwys rhoi allan manylion personol fel rhif ffôn symudol a lluniau o’u hun. Os maent yn siarad gyda phlentyn arall mae yna risg fydden nhw’n camddefnyddio’r wybodaeth - er enghraifft, wrth ddanfon negeseuon testun ymosodol i’r plentyn, neu wrth bostio eu delweddau ar y we; ond mae yna fwy o risg amlwg os yw’r plentyn yn siarad gydag oedolyn. Yn anffodus, mae pedoffilyddion - oe-dolion sydd eisiau cwrdd â phobl ifanc am rhyw - yn gwneud defnydd o’r rhyngrwyd, yn aml gyda’r bwriad o siarad gydag a chwrdd â phlentyn. Gall pobl ifanc fod yn naïf i’r risg, ac meant yn aml y teimlo yn anorchfygol, neu eu bod ‘yn gwybod os yw rhywun yn dweud celwydd’. Bydd pobl ifanc yn aml yn cyfnewid ffrindiau drwy IM, ac felly yn medru sgwrsio gyda phobl ddieithr maent yn teimlo y gallent ymddiried ynddo oherwydd bod ffrind i ffrind yn eu nabod. Mae IM yn ffordd agos iawn i gadw mewn cysylltiad, mwy nag ystafell sgwrsio gyda llawer o gyfranogion, ac felly mae camddefnyddwyr plant yn aml yn def-nyddio hyn fel ffordd o gael manylion personol wrth berson ifanc.